,"sans-serif"'> 10. Cynhelir y broses dendro derfynol rhwng misoedd Gorffennaf a Medi ac mae disgwyl y caiff y contract ei ddyfarnu erbyn diwedd y flwyddyn hon, gyda’r gweithrediadau’n dechrau ym mis Hydref 2018.

Proses Ddatganoli

11. Rydym yn symud ymlaen gyda’r caffael hwn ar sail y cytundeb a luniwyd rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn 2014 i drosglwyddo swyddogaethau masnachfraint.

12. Mae cyflawni ein huchelgais yn dibynnu ar Lywodraeth y DU yn bodloni disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r canlynol:

•           Llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r pwerau ar amser ac fel y cytunwyd; 

•           Llywodraeth y DU a Network Rail yn cytuno ar gynlluniau ar gyfer Cledrau’r Cymoedd, sy’n cael eu trafod ar hyn o bryd;

•           Yr Adran Drafnidiaeth yn cytuno i drefniadau ariannol addas ar gyfer seilwaith Cledrau’r Cymoedd.

 

 

Trafnidiaeth Cymru

Mawrth 2017

 

 



[1] http://gov.wales/topics/transport/transport-for-wales/procurement/?skip=1&lang=cy